Math | pays de Bretagne |
---|---|
Prifddinas | Dol |
Poblogaeth | 51,752 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Llydaw Uchel |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 637 km² |
Cyfesurynnau | 48.550556°N 1.749722°W |
Mae Bro Dol neu yn y Llydaweg, treiglir enw'r lle, Bro-Zol (Ffrangeg: Pays de Dol) yn un o naw bro hanesyddol Llydaw. Ei phrifddinas yw Dol, neu yn Ffrangeg, Dol-de-Bretagne.
Mae'n cynnwys ardal o 637km2, sy'n cyfateb i ogledd-ddwyrain y Département, Il-ha-Gwilen (Ille-et-Vilaine). Roedd ganddi boblogaeth o 55,300 yn 2012.[1] Dyma fro lleiaf Llydaw o ran maint a phoblogaeth. Mae'n ffinio â Normandi i'r dwyrain. Ceir 43 cymuned (Llydaweg: kumunioù; Ffrangeg: commune) yn ym Mro Dol.