Brynfa

Brynfa
Mathtref Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r term brynfa (Saesneg: Hill Station) yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio tref, sy'n gymharol uchel i fyny, ar isgyfandir India. Mae'r enw wedi cael ei ddefnyddio weithiau ar gyfer trefi bach eraill ym mryniau Asia yn y cyfnod trefedigaethol fel dihangfeydd o wres yr haf. Yn India ei hun ceir y mwyafrif o'r brynfeydd rhwng 1000 a 2500 medr i fyny (3,500 - 7,500 troedfedd). Sefydlwyd tua 50 ohonynt yn ystod y Raj, rhai ohonynt gan y fyddin Brydeinig, eraill gan dywysogion Indiaidd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in