Ystafell danddaearol lle cedwir carcharorion ynddi yw daeardy[1] neu ddaeargell.[2] Yn gyffredinol fe'i cysylltir â chestyll canoloesol, er bod y cysylltiad ag artaith yn deillio o gyfnod y Dadeni, mae'n debyg. Mae waliau daeardy Castell y Waun yn eithriadol o drwchus ac yn bum metr ar eu heithaf, gydag un twll bychan, hir i adael llygedyn o oleuni i'r ystafell.