Gor-realaeth

Rhodri ap Dyfrig o S4C yn dangos ap AR yn 2018.

Mae gor-realaeth neu realiti estynedig[1] (Saesneg: Augmented Reality) yn ddatblygiad ar rhithwirionedd (virtual reality) ac yn ddau gymhwysiad neu brofiad cwbwl groes i'w gilydd. Mae meddalwedd rhithwir yn ceisio ail-greu'r byd go-iawn ond mae meddalwedd gorwir yn dechrau gyda'r byd go iawn (e.e. llun byw drwy gamera) ac yn rhoi haen o wybodaeth wedi'i gynhyrchu gan gyfrifiadur ar ei ben. Enghraifft o hyn ydy ffenest peilot awyren, ble ceir haen o wybodaeth yn y gwydr ar ben yr olygfa go-iawn a welir drwy'r gwydr. Cysylltir realiti estynedig â chydsyniad mwy cyffredinol o'r enw realiti-gyfryngol.

Mae'n ofynnol fod yn y cyfarpar neu'r teclyn a ddefnyddir elfennau megis GPS, cwmpawd a chamera. Fel hyn, mae'r teclyn yn gwybod ble ac i ba gyfeiriad mae'n "edrych".

Porwr Byd Wikitude yn chwilio am wybodaeth ar adeiladau ar iPhone.
  1. Gwefan eiriadurol y Coleg Cymraeg; adalwyd 24 Hydref 2013

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy