Hansh

Gwasanaeth ar lein gan S4C a sefydlwyd ar 11 Mehefin 2017 yw Hansh, sy'n darparu cynnwys ffurf fer wedi ei anelu at bobl ifanc rhwng 16 – 34 oed. Fe'i disgrifir fel "Brathiad newydd bob dydd o bethau da: celf, comedi, cerddoriaeth, gemau, ffilmiau, teithio a phethau gwirion." Sianel Pump oedd Hansh yn wreiddiol, ond ychwanegodd Y Lle ac Ochr 1 gynnwys i'r sianel felly newidiwyd ei enw a'i ailfrandio. Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi datblygu o fod yn gweithredu ar Facebook ac YouTube yn unig i fod yn creu cynnwys ar Instagram a TikTok yn ogystal â chreu podlediadau. Yr eitemau mwyaf poblogaidd ar y sianel ydy 'Tân a Mwg' gyda Chris Foodgasm Roberts, 'Bocs Bry', 'Sgrameer', Esyllt Ethni Jones, caneuon comedi 'HyWelsh', eitemau ffasiwn Sioned Medi, cyfweliadau Gareth yr Orangutang, ryseitiau bwyd SGRAM ac eitemau Elena Cresci. Credir bod rhai o gymeriadau Hansh yn gyfarwydd i Gymry led led y byd, gan gynnwys Gareth yr Orangutan, 'Tishio grêp' a chymeriadau dychanol yr actor Geraint Rhys Edwards.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy