Ikurrina

Baner Gwlad y Basg: yr Ikurrina
Baner Gwlad y Basg: yr Ikurrina

Ikurrina yw'r enw ar faner Gwlad y Basg. Fe'i sillefir fel "Ikurrina" yn y Basgeg[1] ac "Ikurriña" yn y Sbaeneg[2]. Defnyddir yr enw fel y gelwir baner y Ddraig Goch ar faner Cymru neu'r Stars and Stripes ar faner UDA. Mae'n faner swyddogol ar Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Euskadi) ond cydnabyddir hi'n gyffredinol fel baner i bob un o 7 talaith Gwlad y Basg (Euskal Herria) er bod peth anghydfod yn ei chylch yn nhalaith Nafar (Navarra yn Sbaeneg, Nafaroa yn Basgeg).

  1. Euskaltzaindia: Geiriadur Basgeg Safonol Archifwyd 2011-04-09 yn y Peiriant Wayback, adalwyd 2010-10-04.
  2. Real Academia Española (2001): «ikurriña», Diccionario de la Lengua Española, Cyfrol 22, ar gael ar-lein. Adalwyd 2014-03-30.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in