Eglwys Sant Ioan, Llangiwa ar lan Afon Mynwy | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9292°N 2.8856°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Pentref bychan yng nghymuned y Grysmwnt, Sir Fynwy, Cymru, yw Llangiwa[1] (Saesneg: Llangua).[2] Fe'i lleolir ar bwys ffordd yr A465 mewn ardal wledig 9 milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Fenni yng ngogledd-ddwyrain y sir, bron ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gorwedd ar lan Afon Mynwy tua milltir o'r Grysmwnt.
Enwyd yr eglwys yn wreiddiol, ac yna'r pentref, ar ôl y Santes Giwa.