Math | plwyf, pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8497°N 2.9244°W |
Cod OS | SO364172 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au | Catherine Fookes (Llafur) |
Pentref gwledig a phlwyf yng nghymuned y Grysmwnt, Sir Fynwy, Cymru, yw Llanwytherin[1][2] (Saesneg: Llanvetherine). Fe'i lleolir ar y B4521 tua 4 milltir i'r dwyrain o'r Fenni, ar y ffordd i Ynysgynwraidd.
Cyfeirir at y pentref yn y llawysgrif Gymreig gynnar Llyfr Llandaf fel Ecclesia Guitherin (Lladin am 'Eglwys Gwytherin'). Sefydlwyd yr eglwys gan y sant Gwytherin, yn ôl pob tebyg. Cafwyd hyd i faen gydag arysgrif Ladin arno yn dwyn y geiriau S. Vetterinus a Ixcob Psona, sydd efallai er cof am offeiriad o'r enw Jacobus.