Lliwur

Sylwedd a ddefnyddir i liwio defnyddiau megis tecstiliau, papur, a lledr yw lliwur,[1] llifyn,[2] neu yn syml lliw, a chanddo affinedd â'r wyneb y ceir ei roi arno. O ganlyniad i'r affinedd cemegol, ni newida'r lliw yn rhwydd wrth ei olchi neu gan dymheredd, golau, ac amodau eraill. Mae'r mwyafrif o liwurau yn gyfansoddion organig, hynny yw maent yn cynnwys carbon.[3]

  1.  lliwur. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Mai 2017.
  2.  llifyn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Mai 2017.
  3. (Saesneg) dye. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2017.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in