Microffilament

Mae microffilamentau actin yn penderfynu siâp arwyneb y gell, ac maent yn hanfodol ar gyfer ymsymudiad celloedd cyfan. Maent yn ffurfio llawer o fathau o arwyneb y gell, a’r rheiny’n ddeinamig ac yn cael eu defnyddio gan gelloedd i archwilio eu hamgylchedd ac i’w tynnu eu hunain o le i le. Mae eraill yn adeileddau sefydlog fel y bwndeli rheolaidd o stereocilia ar arwyneb blewgelloedd yn y glust fewnol, sy’n ymateb i sn.

Gall microffilamentau ffurfio cydosodiadau sy’n rhannu celloedd yn ddau yn ystod sytocinesis ac yn galluogi cyhyrau i gyfangu. Maent tua 5-9 nm o ddiamedr ac maent i’w cael gan mwyaf yng nghortecs y gell, lle maent yn penderfynu siâp a symudiad arwyneb y gell. Fel microdiwbynnau, mae microffilamentau yn medru polymeru a datpolymeru yn gyflym.

Mae microffilamentau wedi’u hadeiladu o is-unedau protein actin cryno a chrwn sy’n ffurfio cydosodiadau heligol tebyg i’r rhai a welir yn achos microdiwbynnau, ac maent hefyd yn ffurfio protoffilamentau. Er mwyn i ffilament newydd ffurfio, rhaid cael cnewylliad tebyg i’r hyn sy’n digwydd yn achos microdiwbynnau.

Mae’r ffilament actin wedi’i gyfansoddi o 2 protoffilament cyfochrog sy’n troi o amgylch ei gilydd mewn helics llawdde, ac sy’n hyblyg o’u cymharu â microdiwbynnau. Mewn celloedd byw, mae ffilamentau actin wedi eu trawsgysylltu ac wedi’u bwndelu at ei gilydd gan brotinau ategol gan greu adeileddau actin graddfa fawr sy’n gryfach na ffilament unigol.

Mae actin yn catalyddu hydrolysis ATP ar ôl i is-uned gael ei ymgorffori mewn ffilament ac mae ADP yn aros yn y ffilament. Rydym yn gwybod bod ffilamentau actin yn medru dangos ‘melindraedio’ (‘treadmilling’). Dyma’r broses lle mae is-unedau yn cael eu hychwanegu at y pen plws, wedi’u rhwymo i ATP, ac ar yr un pryd yn cael eu colli, yn y ffurf ADP, o’r pen minws.

Mae gan y rhan fwyaf o organebau nifer o enynnau sy’n amgodio actin; 6 genyn yn achos dynion. Fel arfer, mae dilyniannau asid amino actinau o rywogaethau gwahanol tua 90% yr un fath; mae gan fertebratau 3 gwahanol isoffurf o actin. Gallai mwtaniad mewn actin arwain at newidiadau annymunol yn ei rhyngweithiadau â nifer o broteinau sy’n rhwymo iddo.

Mae proteinau rhwymo-actin yn cynnwys proteinau sy’n rhwymo i’r pen cyflym (gelsolin, villin, fragmin) / araf (acumentin, brevin), i ochr y ffilament (tropomyosin, severin, villin, gelsolin), i fonomer, neu broteinau sy’n cysylltu 2 neu fwy o ffilamentau â’i gilydd neu â phroteinau eraill (alffa-actinin, villin, fimbrin, spectrin).


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy