Mingreliaid

Mingreliaid
Y Dywysoges Chkonia o Fingrelia
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MamiaithMingreleg, georgeg edit this on wikidata
Label brodorolმარგალეფი Edit this on Wikidata
Poblogaeth400,000 Edit this on Wikidata
CrefyddEglwysi uniongred edit this on wikidata
Rhan oIeithoedd Cartfeleg Edit this on Wikidata
Enw brodorolმარგალეფი Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethnig sy'n perthyn i genedl y Georgiaid yn y Cawcasws yw'r Mingreliaid sy'n siarad yr iaith Fingreleg. Mae tua hanner miliwn ohonynt yn byw yn Georgia, yn bennaf yn nhalaith Mingrelia, neu Samegrelo.

Saif mamwlad y Mingreliaid ar lannau'r Môr Du, yn ardal Teyrnas Egrisi, a elwid Colchis gan yr hen Roegiaid. Erbyn yr 11g, roedd Mingrelia yn rhan o Deyrnas Georgia. Enillodd Tywysogaeth Mingrelia ei hannibyniaeth yn yr 16g dan frenhinllin y Dadiani. Yn 1803 arwyddwyd cytundeb am nawddogaeth Ymerodraeth Rwsia. Cipiwyd Mingrelia gan luoedd Rwsia yn 1857, a diddymwyd y dywysogaeth.

Ystyrir y Mingreliaid yn is-grŵp i'r Georgiaid, er eu bod yn meddu ar ddiwylliant, hanes, ac iaith eu hunain. Mae'r mwyafrif ohonynt yn aelodau Eglwys Uniongred Georgia, a rhai yn Fwslimiaid, yn Uniongredwyr Rwsiaidd, neu'n Gatholigion.[1] Ceir pryder o fewn gwladwriaeth Georgia y gall hyrwyddo iaith ac hunaniaeth Mingrelaidd danseilio undod y weriniaeth a bod hyrwyddo hawliau lleiafrifol yn rhan o ystryw 'rhannu a rheoli' gan Rwsia.[2] Ymddengys y gwelir hunaniaeth y Mingreliaid fel un rhanbarthol o fewn Georgia ac nid un genedlaethol. Mae'n ymddangos bod amheuon Sioraidd bod Moscow yn bwriadu gwanhau eu gwlad trwy rannu ei grŵp ethnig teitl yn gydrannau llai wedi'u cadarnhau yn 2010, pan restrodd cyfrifiad Rwsia bod hunaniaeth Mingreliaid ar wahân i Sioriaid (ynghyd â Svans, Adjarians, Ingiloys [Sioriaid o'r gogledd-orllewin Azerbaijan, a Laz).[2]

Hyd yn oed yn Rwsia, mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Mingrelian yn gwrthod y syniad o hunaniaeth ethnig sy'n wahanol i Sioraidd

Ond mae’r ffaith bod bron i 158,000 o ymatebwyr wedi datgan eu bod yn Georgiaid, tra mai dim ond 600 (llai na 0.4%) a nododd eu bod yn Mingrelians (45 fel Svans), hyd yn oed yn Rwsia, mae’r rhan fwyaf o siaradwyr Mingrelian yn gwrthod y syniad o hunaniaeth ethnig wahanol i Sioraidd.

Yn sgil Chwyldro Rwsia yn 1917, meddiannwyd Mingrelia gan Weriniaeth Ddemocrataidd Georgia (1918–21). Cyfeddiannwyd gwledydd deheuol y Cawcasws gan yr Undeb Sofietaidd a chychwynnwyd ar bolisi swyddogol o gymhathu'r Mingreliaid yn rhan o genedl y Georgiaid. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd a rhyfeloedd yn ne'r Cawcasws yn y 1990au, alltudiwyd rhyw 200,000 o Georgiaid, y mwyafrif ohonynt yn Fingreliaid, o Abcasia.[1]

  1. 1.0 1.1 James B. Minahan, Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2016), tt. 272–3.
  2. 2.0 2.1 "Do you speak Mingrelian? A major language in western Georgia could struggle for survival – because it's not considered one". Open Democracy. 26 Mehefin 2017.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy