Math | nuclear facility, busnes |
---|---|
Ardal weinyddol | Seascale |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.4189°N 3.4881°W |
Rheolir gan | Sellafield Ltd |
Atomfa yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Sellafield, a arferid cael ei alw'n Windscale. Oherwydd cyhoeddusrwydd gwael iawn ynghylch pa mor ddiogel (neu anniogel) oedd yr atomfa, newidiwyd enw'r lle o Windscale i Sellafield yn 1981.
Hyd at 2005, British Nuclear Fuels plc (BNFL) oedd perchnogion yr atomfa hon, ond ers hynny mae ym mherchnogaeth yr Awdurdod Datgomisiynnu Niwclear. Mae yma sawl adweithydd, gan gynnwys yr atomfa masnachol cyntaf drwy'r byd, sef Calder Hall a agorwyd yn 1956. Caewyd yr atomfa ar 31 Mawrth 2003 wedi 47 mlynedd o waith.