Shamisen

Merch yn canu shamisen (tua 1860)

Mae'r shamisen (Japaneg: 三味線 “tri tant blas”) yn offeryn cerdd Siapaneaidd.

Offeryn tannau gyda blwch sain hirsgwar a thair o dannau iddo ydyw'r shamisen. Gorchuddir ddau wyneb y blwch sain â "chroen cath". Mae'n cael ei chwarae â phlectrwm o'r un faint a siâp â chorn esgid.

Defnyddir offeryn o'r enw samisen mewn cerddorfau Eidalaidd yn achlysurol, e.e. ar gyfer perffromiadau o Madama Butterfly gan Puccini, ond offeryn "gwneud" ydyw, sy'n fath o drafesti o'r offeryn Siapaneaidd gwreiddiol.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy