Mae siart cylch yn ddiagram ystadegol sydd wedi'i rhannu'n dafelli i ddangos cyfran rifiadol. Mewn siart cylch, mae hyd, arwynebedd ac ongl arc pob tafell, yn gyfraneddol (proportional) i'r swm y mae'n ei gynrychioli. Ceir cryn amrywiadau ar y modd y gellir cyflwyno'r math hwn o siart.
Defnyddir y siart cylch drwy'r byd ar hysbysebion a thrwy'r cyfryngau gweledol.[1] Gan ei bod yn anodd cymharu rhai o'r tafelli o fewn y siart, mae llawer o fathemategwyr yn argymell peidio a defnyddio'r math hwn o siart.[2][3][4][5]. Dywedant ei bod yn llawer haws cymharu data pan gaiff ei arddangos mewn siartiau llinell, siartiau bar a siartiau eraill.