Enw a roddir ar frawdlysoedd y gylchdaith orllewinol yn ystod haf 1685, dan lywyddiaeth yr Arglwydd Brif Ustus George Jeffreys, yn sgil trechu Dug Trefynwy ym Mrwydr Sedgemoor, yw y Frawdlys Waedlyd. Dienyddiwyd rhyw 150 o gefnogwyr Dug Trefynwy, y mwyafrif ohonynt yn ffermwyr a brethynwyr tlawd, ac alltudiwyd rhyw 800 ohonynt i India'r Gorllewin. O ganlyniad i’r dedfrydau llymion, cynyddodd cefnogaeth dros hawl Wiliam o Oren i orsedd Lloegr yn ne-orllewin y wlad.[1][2]