Ymson

Ymson yw'r term llenyddol am gymeriad neu unigolyn yn siarad ag ef ei hun i fynegi ei deimladau a'i feddyliau.[1] Gan amlaf ceir ymson gan gymeriad mewn drama neu gerdd, e.e. cymeriad Hamlet yn nrama adnabyddus Shakespeare.

Mae'r ymson yn ffurf lenyddol hynafol. Yr enghraifft gynharaf o gerdd ymson yn Gymraeg efallai yw'r dilyniant o englynion a adnabyddir heddiw fel "Cân yr Henwr" ac a briodolir i Lywarch Hen. Yn y gerdd mae'r pennaeth yn ymffrostio yn ei ieuenctid coll pan gâi groeso yn llys Powys a phopeth dymunol i'w ran ac yn cwyno ei henaint adfydus, yn unig a gwargrwm, wedi colli popeth ac ar ffo heb ddim ond ei baglan (ffon) bren i'w gynnal.[2]

  1. Morgan D. Jones, Termau iaith a llên (Gwasg Gomer, 1974).
  2. Ifor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1935), Cerdd Rhif II.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy