Abacws

Abacws
Mathofferyn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y soroban, Japan
Abacws deuol (soroban-gyfrifiannell), Sharp Elsi Mate EL-8048 Sorokaru, a gynhyrchwyd yn 1979

Mae'r abacws (ll. abacysau), a elwir hefyd yn 'ffrâm gyfri', yn offeryn cyfrifo a ddefnyddiwyd yn Asia, Ewrop, Tsieina a Rwsia, canrifoedd cyn mabwysiadu'r System rhifolion Hindŵ-Arabaidd. Ymddangosodd yr abacws yn gyntaf oddeutu 2700–2300 CC yn Swmer, Gorllewin Asia[1]. Heddiw, mae'r abacws yn aml yn cael ei lunio fel ffrâm fambŵ gyda gleiniau'n llithro ar wifrau, ond yn wreiddiol, roeddent yn ffa neu'n gerrig wedi'u symud mewn rhigolion yn y tywod neu ar ford pren, carreg, glai neu fetel. Mewn rhai gwledydd cafodd ei olynnu gan y cyfrifiannell mecanyddol, ac yna'r cyfrifiannell electronig, ond yn 2019 roedd yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd.

Ceir amrywiaeth eang o ran cynllun a maint yr abacws. Pwrpas yr abacysau 10-glain, yn bennaf, yw i gynorthwyo addysgu rhifyddeg. Fe'u defnyddir heddiw yn aml mewn rhai o gyn-wledydd Sofiet yn yr ysgolion, ac yng Ngorllewin Ewrop, Tsieina ac Affrica.[2] Mae'r math 'soroban' (a'r 'suanpan') yn Japan, wedi cael ei ddefnyddio i gyfrifo symiau cymhleth iawn. Gall pob abacws, gyflawni sawl gweithrediad gwahanol e.e. adio, lluosi neu gyfrio'r Ail isradd. Mae rhai o'r dulliau'n gweithio gyda rhifau annaturiol e.e. 1.7 neu ​3⁄4.

Ar 12 Tachwedd 1949 cynhaliwyd cystadleuaeth ffurfiol rhwng yr abacws a'r cyfrifiannell, yn Tokyo. Defnyddiwyd y math soroban gan Kiyoshi Matsuzaki a chyfrifiannell electronig gan Thomas Nathan Wood, aelod o luoedd arfog UDA. Rhoddwyd marciau am bedwar math o broblem (y pedwar gweithrediad rhifyddol) a phumed problem a oedd yn cyplysur 4 gweithrediad, gyda chyflymder a chywirdeb yn brif meincnodau. Enillodd yr abacws 4 o'r problemau a'r cyfrifiannell un.[3] Yn ôl y papur newydd Stars and Stripes, roedd buddugoliaeth yr abacws yn glir a phendant, ac wedi'r digwyddiad hwn: "the machine age took a step backwards....".

  1. Ifrah 2001, t. 11
  2. Boyer & Merzbach 1991, tt. 252–253
  3. Stoddard, Edward (1994). Speed Mathematics Simplified. Dover. tt. 12.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy