Math | abaty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanelltud |
Sir | Llanelltud |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 5.2 metr |
Cyfesurynnau | 52.758155°N 3.8962°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME001 |
Hen abaty Sistersiaidd ger pentref Llanelltyd, ar lan Afon Mawddach tua dwy filltir i'r gogledd o Ddolgellau yn ardal Meirionnydd, Gwynedd yw Abaty Cymer a adeiladwyd yn 1198 gan Arglwydd Hywel, un o wyrion Owain Gwynedd. Saif yr hen abaty yng nghesail cymer Afon Wnion ac Afon Mawddach. Yr hen enw ar y llecyn oedd Cymer Deuddwfr. Enw arall arno oedd Y Faner Gymer (â baner yn fenthyciad Cymraeg Canol o'r gair Lladin Canol manerium, "maenor, manor", efallai).
Ym Mehefin 1966 fe'i cofrestrwyd gan CADW fel adeilad Gradd I; rhif cofrestriad: 4738.