Aberaeron

Aberaeron
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,422, 1,268 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd158.28 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.24245°N 4.25939°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000357 Edit this on Wikidata
Cod OSSN458628 Edit this on Wikidata
Cod postSA46 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Gweler hefyd Aeron (gwahaniaethu).

Tref arfordirol a chymuned yng Ngheredigion, Cymru, yw Aberaeron. Saif ar briffordd yr A487 tua hanner ffordd rhwng Aberteifi ac Aberystwyth. Mae lôn arall, yr A482, yn cysylltu'r dref â Llanbedr Pont Steffan i'r dwyrain.

Adeiladwyd y dref gan y Parch Alban Thomas Jones-Gwynne ym 1805. Mae'r tai wedi'u gosod mewn patrwm ffurfiol — o dan ddylanwad y pensaer John Nash, medd rhai.

Crëwyd harbwr ar geg Afon Aeron, ac yn fuan daeth y dref yn ganolfan bysgota bwysig. Erbyn hyn, cychau hwylio sydd i'w gweld yn harbwr Aberaeron. Mae'r traeth yn braf ac wedi ennill baner las am ei lendid.

Gan fod Aberaeron rhwng de a gogledd Ceredigion, yma bellach mae pencadlys Cyngor Sir Ceredigion. Mae 1,422 o bobl yn byw yn y dref ac mae tua 60% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg (2011); un o'r canrannau uchaf ar arfordir Ceredigion heddiw. Yr Aelod lleol o Senedd Cymru yw Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).

Gerllaw ceir plasdy hynafol Llannerch Aeron, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Lleolir Ysgol Gyfun Aberaeron yn y dref.



From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy