Math | tref farchnad |
---|---|
Poblogaeth | 8,250 |
Gefeilldref/i | Saline, Gouenoù |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Sir | Aberhonddu |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Wysg, Afon Honddu |
Cyfesurynnau | 51.9468°N 3.3909°W |
Cod OS | SO045285 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Aberhonddu[1] (Saesneg: Brecon). Mae'n cymryd ei henw oddi ar aber Afon Honddu ag Afon Wysg. Yng nghanol y dre mae'r ddwy afon yn uno, ac mae Afon Tarrell hefyd yn llifo i mewn i Wysg gerllaw.
Ceir eglwys gadeiriol fechan ond diddorol yn Aberhonddu. Priordy a sefydlwyd gan y Normaniaid yn yr 11g oedd hi i ddechrau. Fe'i gwnaed yn eglwys gadeiriol yn 1923 wrth greu Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Prif eglwys y dref yw'r Santes Fair.
Tua 7 cilometr i'r gogledd ceir dwy domen o'r Oesoedd Canol gan gynnwys Castell Madog (De).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]