Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Yr Hafanau |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.78°N 5.1°W |
Cod post | SA62 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Pentref bychan yng nghymuned Yr Hafanau, Sir Benfro, Cymru, yw Aberllydan[1] (Saesneg: Broad Haven).[2] Fe'i lleolir yng ngorllewin y sir, ar lan Bae Sain Ffraid, tua 6 milltir i'r gorllewin o dref Hwlffordd.
Mae'n ganolfan gwyliau ers hanner cyntaf y 19eg ganrif ac yn boblogaidd gan ymwelwyr oherwydd y traeth llydan sydd rhynddo a phentref Aber-bach, i'r de, traeth sydd wedi derbyn baner las yn ddiweddar oherwydd ei lendid.[3] Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.