Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Aberpennar |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6814°N 3.3792°W |
Cod OS | ST025915 |
Cod post | CF45 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au y DU | Gerald Jones (Llafur) |
Tref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Aberpennar[1] (Saesneg: Mountain Ash). Yn wreiddiol Aberpennarth oedd enw'r dref.[2] Fe'i lleolir yng Nghwm Cynon. Llifa Afon Cynon heibio'r dref.
Rhennir y dref yn ddwy gymuned: Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan ardal adeiledig Aberpennar boblogaeth o 13,005.[3]
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Cefnpennar, Cwmpennar, Darranlas, Glenboi a'r Drenewydd. Yn hanesyddol, mae'n rhan o Forgannwg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Gerald Jones (Llafur).[4][5]