Enghraifft o'r canlynol | teyrnas |
---|
Aeron, yn ôl pob tebyg, oedd enw bro yn yr Hen Ogledd y cyfeirir ati yng Nghanu Aneirin a Chanu Taliesin. Credir bod ei thiriogaeth yn gyfateb yn fras i hen Swydd Aeron (Ayrshire) yn ne-orllewin yr Alban.
Yn Y Gododdin cysylltir yr arwr Cynon fab Clydno ag Aeron. Mae'n cael ei ddisgrifio fel dileid Aeron ("amddiffynnydd Aeron") a ymunodd â gwŷr Manaw Gododdin i fynd i frwydro yng Nghatraeth. Mae'r gerdd yn sôn am "ddau gadgi Aeron" (dau ryfelwr o Aeron) a rhyw "Cynddilig Aeron" anhysbys yn ogystal.
Mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn cytuno mai'r hen Swydd Ayr yn yr Alban yw'r Aeron yng ngwaith Taliesin ac Aneirin.
Posiblrwydd arall yw ei bod rhywle ger teyrnas Elfed (gogledd canolbarth Lloegr) gan fod Aire yn enw ar afon yn nwyrain Swydd Efrog.
Disgrifir Urien Rheged fel "diffreidawc Aeron" ("amddiffynnydd Aeron") mewn cerdd yng Nghanu Taliesin a sonnir amdano yn mynd i Aeron i ymladd yn erbyn y gelyn. Mae'n bosibl felly fod Aeron naill ai yn rhan o deyrnas Rheged yn amser Urien neu'n gorwedd rhwng y deyrnas honno a Stratclud (Ystrad Clud); efallai fod Aeron yn deyrnas annibynnol ar un adeg felly.
Cysylltir Aeron, trwy Urien a Chlydno, â llinach Coel Hen.