Enghraifft o'r canlynol | math o ecosystem, math o afon |
---|---|
Math | cwrs dŵr, open water |
Rhan o | system ddraenio |
Yn cynnwys | dŵr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llifiad o ddŵr o dir uwch i'r môr neu i lyn neu fan is arall, yw afon. Mae'r rhan fwyaf o afonydd yn llifo o'u tarddle, gan amlaf yn y bryniau a'r mynyddoedd, i lawr drwy'r cymoedd a'r dyffrynoedd hyd nes eu bod yn cyrraedd y môr. Mae sianel yr afon yn lledu fel y mae mwy o ddŵr yn ymuno â'r afon o'r nentydd a'r afonydd o'r mynyddoedd neu dir uwch sydd ar lwybr yr afon ar ei ffordd i'r môr. Eithriad i'r drefn arferol yw afonydd yn ardaloedd anial, yn y Sahara er enghraifft, sy byth yn cyrraedd na môr na llyn ond yn cael eu llyncu yn y diffeithwch neu'n dyfrhau gwerddon.
Bu afonydd yn bwysig i fywydau a chredoau pobl ar hyd a lled y byd ers cychwyn gwareiddiad. A pha ryfedd o ystyried yr hyn sydd gan afon i'w gynnig – yn ddŵr bywiol, pysgod a'r gwiail a hesg defnyddiol ar ei glannau? Yn aberoedd neu diroedd gorlif afonydd mawrion y byd, e.e. Tigris, Ewffrates, Nîl, Ganges, Indws a Hwang Ho ("Afon Felen" yn Tsieina) y datblygodd y gwareiddiadau amaethyddol mawr cyntaf. Yma, cysylltid llif tymhorol yr afonydd mawrion â bywyd a ffrwythlondeb y cnydau. Dyma rodd duwiau'r afon a gallasai'r wobr fod yn fawr o drin y tir yn amserol ac yn briodol.
Er bod afonydd yn llifo ar wyneb y ddaear gan amlaf, gall afonydd lifo dan ddaear, yn naturiol, drwy ogofâu, neu mewn sianeli a wnaed gan bobl, megis sianeli dŵr Llundain. Yn aml, mae'r afon yn lledu i ffurfio llyn: y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru yw Llyn Tegid. Rhoddir wal i atal yr afon ar adegau, i ffurfio argae e.e. Llyn Fyrnwy, Llyn Brianne a Chronfa Nant-y-moch.