Ynys ar afon Irfon ger Llangamarch | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.237°N 3.715°W, 52.15°N 3.4167°W, 52.131622°N 3.669907°W |
Llednentydd | Afon Camarch |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Afon ym Mhowys yw Afon Irfon. Ei hyd yw tua 20 milltir.
Mae'n tarddu ym mryniau de Powys rhwng Bryn Garw (1827') a Drum yr Eira (1968'), tua 7 milltir i'r dwyrain o Abaty Ystrad Fflur. Yna mae'n llifo i'r de trwy bentref Abergwesyn a thrwy Gwm Irfon i Lanwrtyd. Mae'n troi i gyfeiriad y dwyrain wedyn ac yn llifo trwy Langamarch. Ger Llanfair-ym-Muallt mae hi'n llifo i Afon Gwy.
Mae'r afon yn adnabyddus yn hanes Cymru am fod Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, wedi ei ladd ar ei lannau ar 11 Rhagfyr 1282. Digwyddodd hyn yng nghyffiniau Cilmeri.