Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 130 metr |
Cyfesurynnau | 53.0667°N 3.7833°W |
Aber | Afon Conwy |
Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Machno, sy'n llifo i mewn i afon Conwy.
Mae'n tarddu yn rhan uchaf Cwm Penmachno, lle mae nifer o nentydd o'r llechweddau i'r dwyrain o Flaenau Ffestiniog yn cyfarfod. Llifa tua'r gogledd-ddwyrain, drwy bentref Penmachno, lle mae afon Glasgwm yn llifo i mewn iddi, ac yna ymlaen dan y "Bont Rufeinig" (nad yw'n dyddio o'r cyfnod Rhufeinig mewn gwirionedd) i gyrraedd afon Conwy gerllaw priffordd yr A5, ychydig i'r de o Fetws-y-Coed.
Mae'r afon yn rhoi ei henw i gymuned Bro Machno.