Math | y brif ffrwd |
---|---|
Cylchfa amser | Cylchfa Amser Canolog |
Daearyddiaeth | |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 47.2397°N 95.2075°W, 29.1536°N 89.2508°W |
Tarddiad | Llyn Itasca |
Aber | Gwlff Mecsico |
Dalgylch | 2,981,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 3,766 ±1 cilometr |
Arllwysiad | 12,743 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Llyn Itasca, Llyn Bemidji, Llyn Cass, Llyn Winnibigoshish, Llyn Pepin, Llyn Onalaska, Llyn Winneshiek |
Yr ail afon hiraf yn Unol Daleithiau America yw'r Mississippi, yng nghanolbarth y wlad. Ganddi hi, hefyd mae'r ail basn draenio mwyaf yng Nghyfandir Gogledd America.[1][2]
Mae'r afon yn tarddu yn Llyn Itasca, yng ngogledd Minnesota ac yn llifo i'r de i aberu yng Ngwlff Mecsico. Gyda Afon Missouri, sy'n ymuno â hi fymryn i'r gogledd o ddinas St. Louis, mae'n ffurfio'r 3ydd system afon hiraf yn y byd (6050 km / 3759 milltir) ac mae ganddi'r basin draenio trydydd mwyaf yn y byd yn ogystal (3,222,000 km² / 1,243,753m²).[2][3] Oherwydd y perygl o orlifo, fel y profwyd yn Orleans Newydd yn Awst 2005, mae ganddi system gymhleth o gloddiau dŵr (levees) am hanner olaf ei chwrs.
Mae Americanwyr Brodorol wedi byw ar hyd Afon Mississippi a'i llednentydd ers miloedd o flynyddoedd. Helwyr-gasglwyr oedd y mwyafrif, ond roedd rhai, fel Adeiladwyr y Mwnt, yn ffurfio gwareiddiadau amaethyddol a threfol gwaraidd iawn. Newidiodd dyfodiad Ewropeaid yn yr 16g y ffordd frodorol o fyw wrth i archwilwyr cyntaf, yna ymsefydlwyr, fentro i'r basn.[4] Gwasanaethodd yr afon yn gyntaf fel rhwystr, gan ffurfio ffiniau ar gyfer Sbaen Newydd, Ffrainc Newydd, a'r Unol Daleithiau cynnar, ac yna fel priffordd i gludo a chyfathrebu newyddion a gwybodaeth.
Wedi'i ffurfio o haenau trwchus o ddyddodion (deposits) silt yr afon, mae basn y Mississippi yn un o ardaloedd mwyaf ffrwythlon yr Unol Daleithiau; defnyddiwyd agerlongau yn helaeth yn y 19g a dechrau'r 20g i gludo nwyddau amaethyddol a diwydiannol. Yn ystod Rhyfel Cartref America, roedd cipio’r Mississippi gan luoedd yr Undeb yn nodi trobwynt bwysig, tuag at fuddugoliaeth, oherwydd lleoliad strategol yr afon. Oherwydd twf sylweddol ei dinasoedd a'r llongau a'r cychod hwylio gwell a ddisodlodd y cychod stêm, yn ystod degawdau cyntaf yr 20g, adeiladwyd gwaith peirianneg enfawr fel llifgloddiau, lociau ac argaeau.
Ers yr 20g, mae Afon Mississippi hefyd wedi gwaethygu o ran llygredd ac mae ganddi broblemau amgylcheddol mawr - yn fwyaf arbennig lefelau maetholion a chemegol uwch o ddŵr ffo amaethyddol, a hi yw'r prif gyfrannwr i "barth marw Gwlff Mecsico".