Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.5056°N 3.2101°W |
Afon yng ngogledd-ddwyrain Powys yw Afon Miwl. Ei hyd yw tua naw milltir.
Mae'n tarddu ar Fryn Ceri i'r de o bentref bach Dolfor, rhwng Y Drenewydd a'r ffin â Lloegr. Mae'n llifo i gyfeiriad y gogledd ac yna i'r dwyrain ger bentref Ceri (sy'n rhoi ei henw i'r hen gwmwd Ceri). Mae ffrydiau llai yn ymuno â hi wrth iddi lifo drwy Goedwig Ceri, bron ar y ffin. Wedyn mae hi'n troi yn ôl i'r gogledd eto ac yn disgyn yn gyflym i bentref Aber-miwl, hanner ffordd rhwng Y Drenewydd a Threfaldwyn, lle mae hi'n aberu yn Afon Hafren.