Afon Rheidol

Afon Rheidol
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.391°N 3.951°W Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
Dalgylch189 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd31 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Afon yng nghanolbarth Cymru yw Afon Rheidol sy'n llifo trwy Geredigion o'i tharddle ar Bumlumon hyd at ei haber yn Aberystwyth.

Mae tarddleoedd Afon Rheidol i'w gael yn y nentydd sy'n llifo i mewn i gronfa ddŵr Nant-y-moch (ger safle brwydr Hyddgen, 1401) ar lethrau gorllewinol Pumlumon. Mae gwir darddle ddaearyddol yr afon yn anodd penderfynu. Yn draddodiadol, Llyn Llygad Rheidol, mewn cwm uchel ger copa Pumlumon Fawr, yw tarddle Rheidol, fel y mae ei enw yn awgrymu; mae Nant y Llyn yn disgyn ohono i Nant-y-moch ond nid yw'n ffrwd sylweddol. Ond ceir sawl ffrwd arall o faint mwy sylweddol, megis afon Hengwm, sydd a'i tharddle i'r de o lyn Bugeilyn fymryn dros y ffin ym Mhowys. Mae afon Llechwedd-mawr yn tarddu yn Llyn Conach ac yn dynodi'r ffin rhwng Ceredigion a Phowys am ran helaeth ei chwrs. Ceir sawl ffrwd llai, yn cynnwys ffrwd Nant-y-moch yr enwir y gronfa dŵr ar ei hôl.

O Nant-y-moch mae'r afon yn llifo tua'r de i gronfa Dinas ac yno trwy bentref Ponterwyd a'i chymer ag Afon Mynach ymuno â hi. Yn fuan ar ôl cymer Afon Mynach, mae Rheidol yn disgyn dros raeadr wrth ymyl pentref Pontarfynach. Mae yn awr yn llifo tua'r gorllewin heibio i hen gloddfa blwm Cwm Rheidol. Er bod y gloddfa yma wedi cau, mae'n parhau i effeithio ar ddŵr Afon Rheidol. Mae'r afon yn awr yn parhau tua'r gorllewin ac yn cyrraedd y môr yn harbwr Aberystwyth lle mae'n llifo i Fae Ceredigion.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in