Alan Brown

Alan Brown
Alan Brown


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2022
Rhagflaenydd Cathy Jamieson
Y Blaid Lafur

Geni (1970-08-12) 12 Awst 1970 (53 oed)
Kilmarnock, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Kilmarnock a Loudoun
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Priod Ydy
Plant Dau fab
Alma mater Prifysgol Glasgow
Galwedigaeth Gwleidydd
Gweithiwr sifil
Cynghorydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Alan Brown (ganwyd 12 Awst 1970) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Kilmarnock a Loudoun; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr, yr Alban. Mae Alan Brown yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe'i ganed yn Kilmarnock, Dwyrain Swydd Ayr yn 1970. Graddiodd gydag Anrhydedd ym Mhrifysgol Glasgow - mewn peirianneg sifil. Yna gweithiodd yn y sector preifat a chyhoeddus.[1]

Yn ei oriau hamdden mae'n cefnogi Clwb pêl-droed Kilmarnock.

Fe'i etholwyd am y tro cyntaf fel cyngorydd sir etholaeth Dwyrain Swydd Ayr (ward Dyffryn Irvine) yn 2007, a hynny fel aelod o'r SNP. Fe'i ail-etholwyd yn 2012.

  1. www.thenational.scot; adalwyd 11 Gorffennaf 2015

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy