Enghraifft o'r canlynol | gwobr |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2013 |
Gwobr am gerddoriaeth gyfoes Cymraeg yw Albwm Cymraeg y flwyddyn sy'n cael ei roi yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Lansiwyd y wobr yn 2013 ar faes Eisteddfod Dinbych yn dilyn argymhellion gan adolygiad o Maes B a gafodd ei wneud gan yr Eisteddfod yn 2012. Mae gan y wobr yr un statws a medal T H Parry Williams neu'r Fedal Wyddoniaeth.[1]
Mae'r wobr yn ystyried albymau a chafodd eu rhyddhau rhwng 1 Mawrth y flwyddyn cynt a diwedd mis Chwefror. Dyfarnir y rhestr fer a'r enillydd gan reithgor o unigolion sy'n ymwneud â'r diwydiant cerdd yng Nghymru. Cyhoeddir y rhestr fer ar ddiwedd mis Mehefin gyda'r enillydd yn cael eu henwi ar y Maes ar ddydd Iau'r Eisteddfod. Cyhoeddwyd yr enillydd cyntaf yn 2014.[2]