Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymuned Amlwch |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Mechell |
Cyfesurynnau | 53.410154°N 4.345662°W |
Cod OS | SH4492 |
Cod post | LL68 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Tref fach a chymuned yn Ynys Môn yw Amlwch.[1][2] Saif yng ngogledd yr ynys ar lôn yr A5025 tua 15 milltir i'r gogledd o Borthaethwy, hanner ffordd rhwng Cemaes a Moelfre. Mae Caerdydd 229.2 km i ffwrdd o Amlwch ac mae Llundain yn 356.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 25.5 km i ffwrdd.
Mae enw 'Amlwch' yn cyfeirio at safle harbwr y dref, sef Porth Amlwch, yn deillio o'r Gymraeg am 'o gwmpas' a llwch (hen air sy'b golygu inlet, creek yn debyg i'r gair Gaeleg 'loch' ar gyfer corff o ddŵr.
Tref sy'n gorwedd ar lan y môr yw hi, heb draeth ond gyda chlogwynni arfordirol trawiadol. Mae twristiaeth yn elfen bwysig yn yr economi leol. Ar un adeg roedd yn borthladd eithaf prysur gyda llongau yn hwylio oddi yno i Ynys Manaw a Lerpwl. Mae nifer o'r tai yn dyddio o'r 19g ac yn ychwanegu at awyrgylch y dref.Yn Amlwch mynydd Paris caethweision oedd yn mwyngliaidd yn yr copper sygun copper mines.
Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.