Aneirin | |
---|---|
Ffugenw | Neirin |
Ganwyd | 525 Cymru |
Bu farw | 600 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor, bardd |
Bardd a flodeuodd yn hanner olaf y 6g oedd Aneirin (c. 525 – 600), un o'r Cynfeirdd cynnar. Mae'n debyg mai Neirin oedd ffurf gynharach ei enw, sy'n tarddu o'r gair Brythoneg tybiedig *naer sydd efallai'n gytras â'r gair Gwyddeleg nár (naill ai "nobl" neu "wylaidd""), yn ôl Ifor Williams.[1] Ef yw awdur Y Gododdin, cyfres o englynion arwrol a gedwir yn Llyfr Aneirin. Mae'r enw personol Cymraeg Aneurin yn ffurf ddiweddarach ar yr enw 'Aneirin'.