Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | afiechyd meddwl, anhwylder sy'n gysylltiedig a sylweddau, clefyd |
Yn cynnwys | camddefnyddio sylweddau, substance dependence |
Anhwylder defnyddio sylweddau (Sesneg: Substance use disorder (SUD)) yw'r defnydd parhaus o gyffuriau (gan gynnwys alcohol) er gwaethaf niwed sylweddol a chanlyniadau andwyol.[1][2] Nodweddir anhwylderau defnyddio sylweddau gan amrywiaeth o broblemau meddyliol, emosiynol, corfforol ac ymddygiadol megis euogrwydd cronig; anallu i leihau neu roi'r gorau i gymeryd y sylwedd(au) er gwaethaf llawer o ymdrechion; gyrru tra'n feddw; a symptomau diddyfnu ffisiolegol.[1][3] Mae dosbarthiadau cyffuriau sy'n ymwneud ag anhwylder defnyddio sylweddau yn cynnwys: alcohol; canabis; phencyclidine a rhithbeiriau eraill, megis arylcyclohexylamines; anadlyddion; opioidau; tawelyddion, moddion cwsg, neu orbryder; symbylyddion (stimulants); baco; a sylweddau eraill.[1][4]
Yn y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol, 5ed argraffiad (2013), a elwir hefyd yn DSM-5, cafodd y diagnosisau DSM-IV o gamddefnyddio sylweddau a dibyniaeth ar sylweddau eu huno i'r categori yma (anhwylderau defnyddio sylweddau).[5][6] Gall difrifoldeb yr anhwylderau hyn amrywio'n fawr; yn y diagnosis DSM-5 o SUD, mae difrifoldeb SUD yr unigolyn wedi'i ddiffinio fel: ysgafn, cymedrol, neu ddifrifol ar sail faint o'r 11 maen prawf diagnostig sy'n cael eu bodloni. Mae'r 11ydd adolygiad o Ddosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD-11) yn rhannu anhwylderau defnyddio sylweddau yn ddau gategori: (1) patrwm niweidiol o ddefnyddio sylweddau; a (2) dibyniaeth ar sylweddau. [7]
Yn 2017, yn fyd-eang, amcangyfrifwyd bod 271 miliwn o bobl (5.5% o oedolion) wedi defnyddio un neu fwy o gyffuriau anghyfreithlon.[8] O'r rhain, roedd gan 35 miliwn anhwylder defnyddio sylweddau.[8] Mae gan 237 miliwn o ddynion a 46 miliwn o fenywod ychwanegol anhwylder defnyddio alcohol o 2016.[9] Yn 2017, arweiniodd anhwylderau o sylweddau anghyfreithlon yn uniongyrchol at 585,000 o farwolaethau.[8] Cynyddodd y marwolaethau uniongyrchol o ddefnyddio cyffuriau, ac eithrio alcohol, 60% rhwng 2000 a 2015.[10] Arweiniodd y defnydd o alcohol at 3 miliwn o farwolaethau ychwanegol yn 2016.[9]