Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Gaerwrangon |
Prifddinas | Pershore |
Poblogaeth | 121,500 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerwrangon (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 663.5418 km² |
Cyfesurynnau | 52.114°N 2.081°W |
Cod SYG | E07000238 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Wychavon District Council |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Wychavon.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 663.5 km², gyda 127,340 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn ymestyn o gornel dde-ddwyreiniol Swydd Gaerwrangon i'r gogledd a'r gorllewin. Mae'n ffinio â phum ardal arall Swydd Gaerwrangon, yn ogystal â siroedd Swydd Gaerloyw a Swydd Warwick.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd nifer o hen awdurdodau lleol, sef bwrdeistrefi Droitwich ac Evesham ynghyd ag Ardal Wledig Evesham a'r rhan fwyaf o Ardal Wledig Droitwich a'r rhan fwyaf o Ardal Wledig Pershore.
Mae enw'r ardal, a ddyfeisiwyd ym 1973, yn cynnwys dwy elfen. Mae "Wych" yn cyfeirio at Hwicce, teyrnas Sacsonaidd hynafol, ac mae "Avon" yn cyferio at Afon Avon.
Pencadlys yr awdurdod yw Pershore. Droitwich Spa ac Evesham yw trefi eraill yr ardal.