Yr Areithiau Pros yw'r enw a fathwyd gan D. Gwenallt Jones i ddisgrifio grŵp o ddarnau rhyddiaith rethregol yn y Gymraeg. Gwaith awduron anhysbys yw'r rhan fwyaf o'r Areithiau ac mae'n anodd eu dyddio'n fanwl, ond gellir dweud eu bod yn perthyn i'r Oesoedd Canol Diweddar a dechrau'r Cyfnod Modern. O ran iaith ac arddull mae'r Areithiau yn rhychwantu'r bwlch rhwng Cymraeg Canol a Chymraeg Diweddar.
Parodïau llenyddol gan ysgrifenwyr hyddysg yn nhraddodiadau Cymru a'i llenyddiaeth yw'r Areithiau. Gellid ystyried mai dyma gyfraniad llenyddiaeth Gymraeg i draddodiad o weithiau tebyg yn Ewrop. Mae'r traddodiad hwnnw yn cychwyn yng Ngroeg yr Henfyd gydag areithiau'r soffyddion a gwaith awduron dychanol fel Lucian ac yn cyrraedd ei uchafbwynt ar y cyfandir yng ngwaith awduron fel Cervantes a Rabelais. Ond mae gwreiddiau'r areithiau yn ddwfn yn y traddodiad Cymreig a Cheltaidd hefyd, lle gwelir arddulliau rhethregol mewn chwedlau Gwyddeleg Canol a chwedlau Cymraeg fel Culhwch ac Olwen a Breuddwyd Rhonabwy.