Etholaeth Sir | |
---|---|
Arfon yn siroedd Cymru | |
Creu: | 2010 |
Math: | Tŷ'r Cyffredin |
AS presennol: | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Etholaeth Arfon oedd etholaeth seneddol yn San Steffan ar gyfer ardal Arfon yng Ngwynedd, gogledd Cymru, rhwng 2010 a 2024. Roedd Arfon hefyd yn etholaeth seneddol o 1885 hyd 1918. Yr Aelod Seneddol wrth amser ei diddymiad oedd Hywel Williams (Plaid Cymru).
Crëwyd etholaeth Gogledd Sir Gaernarfon ar gyfer etholiad cyffredinol 1885 fe'i diddymwyd cyn etholiad cyffredinol 1918. Er mai North Carnarvonshire oedd enw'r sedd newydd yn ôl Ddeddf Ailddosbarthu Seddau 1885, fel Arfon yr oedd y sedd yn cael ei adnabod ar lawr gwlad, yn y wasg a hyd yn oed yn adroddiadau seneddol Hansard. Roedd y sedd yn danfon un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin
Ail grëwyd etholaeth Arfon ar gyfer etholiad cyffredinol 2010; yn 2024, dan argymhellion y Comisiwn Ffiniau i Gymru, rhannwyd ei parthrannau rhwyng yr etholiaethau newydd Bangor Aberconwy a Dwyfor Meirionnydd.[1]