Arlywydd Unol Daleithiau America
President of the United States | |
---|---|
Sêl Arlywydd Unol Daleithiau America | |
Baner Arlywydd Unol Daleithiau America | |
Arddull |
|
Type |
|
Abbreviation | POTUS (en Saesneg) |
Residence | Y Tŷ Gwyn |
Lleoliad | Washington, D.C. |
Penodwr | Coleg Etholiadol neu drwy olyniaeth |
Cyfnod y swydd | 4 blynedd, adnewyddadwy unwaith |
Ffurfwyd | Mawrth 4, 1789 |
Deilydd cyntaf | George Washington |
Gwefan | whitehouse.gov |
Mae Arlywydd Unol Daleithiau America yn ben gwladwriaeth Unol Daleithiau America. Yn ôl cyfansoddiad yr Unol Daleithiau (UDA) ef hefyd yw prifweithredwr y llywodraeth ffederal a chadbennaeth y lluoedd arfog.
Etholir yr Arlywydd a'r Is-Arlywydd gan y Coleg Etholiadol UDA pob pedair blynedd. Mae pob talaith yn anfon yr un nifer o etholwyr i'r coleg etholiadol ag sydd ganddynt o seneddwyr a chynrychiolwyr yng Nghyngres UDA. Mae'r etholwyr yn ymrwymo i bleidleisio yn ôl canlyniadau etholiad cyffredinol a gynhelir ym mhob talaith ar yr un diwrnod.
Bu o leiaf 8 Arlywydd o dras Gymreig gan gynnwys: