Enghraifft o'r canlynol | dosbarth llenyddol |
---|---|
Math | llenyddiaeth epig, verse poetry, barddoniaeth naratif |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Barddoniaeth draethiadol ar ffurf cerdd hir neu gylch o gerddi yw arwrgerdd neu epig sy'n adrodd hanes mawr am ryw gorchwyl caled neu gampau beiddgar, gan canolbwyntio ar arwr neu griw o gymeriadau dewr, fel arfer gyda themâu cenedlaetholgar, mytholegol, neu grefyddol. Rhennir y genre hon yn arwrgerddi cynradd, sy'n tarddu o'r traddodiad llafar, ac arwrgerddi eilaidd, a gyfansoddir yn ysgrifenedig gan awduron unigol.
Cyfansoddir yr arwrgerdd fel rheol mewn iaith dra ffurfiol ac arddull mawreddog. Dull o drosglwyddo hanes a mytholeg o oes i oes oedd arwrgerddi cynradd yr Henfyd, a gwnaethpwyd hynny ar lafar. Byddai'r genhedlaeth iau yn addasu ac ychwanegu at hanes traddodiadol a chwedloniaeth eu cyndeidiau, gan ddatblygu llên llafar oedd yn ganolog i ddiwylliant eu cymdeithas am ganrifoedd. Mae'r fath farddoniaeth yn darlunio rhyw oes arwrol neu euraid, neu'n adrodd straeon tarddiad am ddechreuad y byd neu wawr y genedl. Yr arwrgerdd hynaf yr ydym yn gwybod amdani yw Epig Gilgamesh, cerdd Swmereg o Fesopotamia sy'n dyddio ar ei ffurf ysgrifenedig o 2100 CC. Ymhlith arwrgerddi traddodiadol eraill mae Ramayana a Mahabharata yr Indiaid, Beowulf yr Eingl-Sacsoniaid, Manas y Cirgisiaid, a Kalevala y Ffiniaid.
Yr arwrgerddi hynaf a phwysicaf yn llên Ewrop a chanon y Gorllewin yw'r Iliad a'r Odyseia, a briodolir i Homeros. Cyn iddynt gael eu cofnodi, roeddynt yn rhan o draddodiad llafar beirdd yr Hen Roeg a chawsant eu canu o'r cof mewn gwleddoedd neu ymgynulliadau tebyg. Cynhyrchwyd corff o arwrgerddi eilaidd gan lenorion Ewrop, ar sail yr arwrgerdd Homeraidd, gan gynnwys Yr Aenid gan Fyrsil, La Gerusalemme liberata gan Torquato Tasso, a Coll Gwynfa gan John Milton. Datblygodd hefyd sawl corff neilltuol o farddoniaeth epig ar draws Ewrop, megis Cylch Arthur ym Mhrydain a chansons de geste yn Ffrainc.
Cyflwynwyd elfen o hiwmor i'r arwrgerdd Ewropeaidd gan Batrachomyomachia ("Brwydr y Brogaid a'r Llygod"), parodi o'r Iliad sy'n dyddio o oes Alecsander Fawr. Ymhlith y ffurfiau eraill ar yr epig mae'r anifeilgerddi Lladin o'r Oesoedd Canol a'r arwrgerddi ddifrif-ddigrif o'r Dadeni, yr enghraifft wychaf ohonynt Morgante gan Luigi Pulci. Ffurf ddychanol sy'n efelychu arferion yr arwrgerdd ydy'r ffug arwrgerdd, sy'n adrodd helyntion cymeriad dinod a rhigolau ei fywyd. Enghraifft amlwg o'r genre honno yw The Rape of the Lock gan Alexander Pope.
Defnyddir y gair epig i gyfeirio at weithiau mawr eraill sy'n ymdrin â themâu tebyg, er enghraifft nofelau epig megis Vojna i mir ("Rhyfel a Heddwch") gan Lev Tolstoy neu ffilmiau epig megis Lawrence of Arabia.