Ardha ustrasana (Hanner Camel) | |
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asana |
Osgo neu asana tra'n penlinio mewn ioga yw asana penlinio, sy'n cael ei ddefnyddio yn aml yn India a mannau eraill i fyfyrio ac yn y Gorllewin i gadw'n heini ac fel rhan o symudiadau ioga.[1]
Mae osgo (asana) 'Yr Arwr' (a elwir hefyd yn Sansgrit yn Virasana) yn fath o safle penlinio lle mae'r pen-ôl yn suddo i'r llawr rhwng sodlau'r iogi. Yn yr ystum ioga penlinio hwn, tylino ac ystwytho bysedd y traed a'r fferau, y quadriceps a llinyn y gar.[2][3] Ymhlith y prif safleoedd lle mae'r pen-glin (neu'r ddau) yn cyffwrdd y llawr mae:
Gall pwysau'r corff fod ar y ddwy ben-glin, neu un yn unig, neu'n cael ei rannu gyda rhan arall y corff ee y dwylo. Yn yr Ustrasana (Y Camel) a'i amrywiadau, mae'r pengliniau ill dau ar y llawr, ac yn dosbarthu pwysau'r corff yn gyfartal. Ceir gwahanol ffyrdd o ddosbarthu symudiadau ioga penlinio; ac mae'r rhan bwysicaf o'r dosbarthu yn seiliedig ar sut mae'r asgwrn cefn yn symud.
Rhestr Wicidata: