Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Moroco |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 4,167 metr |
Cyfesurynnau | 31.0619°N 7.9161°W |
Hyd | 750 cilometr |
Cyfnod daearegol | Jwrasig |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd yr Atlas |
Deunydd | craig waddodol |
Cadwyn o fynyddoedd ym Moroco sy'n rhan o gadwyn Mynyddoedd yr Atlas yng Ngogledd Affrica yw'r Atlas Uchel (Ffrangeg, Haut Atlas) neu'r Atlas Mawr (Grand Atlas). Mae'n ffurffio rhan uchaf Mynyddoedd yr Atlas ac yn gorwedd rhwng yr Atlas Canol a'r Anti-Atlas.
Mae'r Atlas Uchel yn gorwedd yng nghanolbarth Moroco yn codi yn y gorllewin ger arfordir Cefnfor Iwerydd ac yn ymestyn i gyfeiriad y dwyrain i'r ffin rhwng Moroco ac Algeria. Yn y gorllewin a'r de-orllewin mae'r gadwyn yn disgyn yn sydyn gan ffurfio'r Anti-Atlas ger yr arfordir. I'r gogledd, i gyfeiriad Marrakech, mae'r disgyniad yn fwy graddol. Jbel Toubkal (4167 m) yw'r copa uchaf. Dyma'r gadwyn fynydd uchaf yng Ngogledd Affrica, a lysenwir weithiau "To Moroco" neu "To Gogledd Affrica". Mae'n ffurfio wrthglawdd anferth sy'n ymestyn am tua 750 km gan wahanu y Moroco Saharaidd oddi Moroco'r Iwerydd a'r Môr Canoldir. Gyda'r cadwynni llai sy'n gysylltiedig ag ef mae gan yr ardal fynyddig hon arwynebedd tir o tua 100 200 km².
Ar gopaon Ouarzazate torrir trwy'r massif gan Dyffryn Draa, sy'n ymagor i'r de. Yma ceir golygfeydd trawiadol gyda chreigiau garw a ceunentau dwfn. Dyma un o ganolfannau y Berberiaid, sy'n byw mewn pentrefi bychain a dilyn bywyd amethyddol, e.e. yn Nyffryn Ourika.
Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn bobl Berber (llwyth yr Amazigh), sy'n dibynnu'n bennaf ar fugeilio anifeiliaid ac amaethyddiaeth am eu bywoliaeth. Mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Ferbereg gyda diwylliant unigryw. Prif ganolfannau'r rhanbarth hwn yw Tahanaoute, Amizmiz, Asni, Tin Mal, Ijoukak, ac Oukaïmden.