Avatar (ffilm 2009)

''Avatar''

Poster theatraidd
Cyfarwyddwr James Cameron
Cynhyrchydd James Cameron
Jon Landau
Ysgrifennwr James Cameron
Serennu Sam Worthington
Zoe Saldana
Stephen Lang
Michelle Rodriguez
Giovanni Ribisi
Joel David Moore
C. C. H. Pounder
Wes Studi
Laz Alonso
Sigourney Weaver
Cerddoriaeth James Horner
Sinematograffeg Mauro Fiore
Golygydd James Cameron
John Refoua
Stephen E. Rivkin
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Lightstorm Entertainment
Dune Entertainment
Ingenious Film Partners
Dosbarthydd 20th Century Fox
Dyddiad rhyddhau 10 Rhagfyr 2009
(dangosiad cyntaf, Llundain)
18 Rhagfyr 2009
(Unol Daleithiau)
Amser rhedeg 162 munud[1]
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Cyllideb $237,000,000[2]
Refeniw gros $1,335,040,297[3]

Ffilm epig ffuglen wyddonol Americanaidd o 2009 yw Avatar. Fe'i hysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan James Cameron ac mae'n serennu Sam Worthington, Zoe Saldana, Sigourney Weaver, Michelle Rodriguez, a Stephen Lang. Gosodir y ffilm yn y flwyddyn 2154 ar Pandora, lloeren yn y system serol Alpha Centauri.[4] Mae bodau dynol yn mwyngloddio mwyn gwerthfawr ar Pandora, tra bo'r Na'vi—hil led-ddynol frodorol—yn gwrthsefyll ymlediad y gwladychwyr, sydd yn bygythio bodolaeth y Na'vi ac ecosystem Pandora. Cyfeiria teitl y ffilm at y cyrff, a greir gan ddefnyddio peirianneg enetig, a ddefnyddir gan gymeriadau'r ffilm i ryngweithio â'r Na'vi.[5]

Dechreuodd Cameron ddatblygu Avatar ym 1994, pan ysgrifennodd scriptment 80 tudalen o hyd ar gyfer y ffilm.[6] Bwriadwyd i ffilmio ddechrau wedi cwblhad Titanic, ac yn ôl Cameron bydd y ffilm wedi'i rhyddhau ym 1999 os nad oedd "angen i dechnoleg dal lan" â'i weledigaeth o'r ffilm.[7][8] Ddechrau 2006, datblygodd Cameron y sgript, iaith y Na'vi,[9] a diwylliant Pandora. Awgrymodd Cameron bod dilyniannau yn bosib os yw Avatar yn llwyddiannus.[10][11][12][13][14][15]

Rhyddhawyd y ffilm mewn fformat 2-D traddodiadol, yn ogystal â fformatau 3-D ac IMAX 3D. Yn swyddogol cyllideb Avatar yw UD$237 miliwn;[2] mae amcangyfrifon eraill yn awgrymu cost o $280–310 miliwn i gynhyrchu a $150 miliwn am farchnata.[16][17][18] Honnir bod y ffilm yn bwysig yn nhermau technoleg gwneuthuriad ffilmiau, am ei datblygiad o olwg 3-D a gwneuthuriad ffilm stereosgopig gyda chamerâu a ddylunir yn arbennig at gynhyrchiad y ffilm.[19]

  1. (Saesneg) BBFC rating and classification details for Avatar (8 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Patten, D. (3 Rhagfyr 2009). 'Avatar's' True Cost -- and Consequences. The Wrap. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  3. (Saesneg) Avatar. The Numbers. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  4. (Saesneg) "Family Filmgoer", The Boston Globe, NY Times Co., 24 Rhagfyr 2009.
  5. (Saesneg) Winters Keegan, Rebecca (11 Ionawr 2007). Q&A with James Cameron. Time. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.
  6. (Saesneg) Jeff Jensen (10 Ionawr 2007). Great Expectations. Entertainment Weekly. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  7. Judy Hevrdejs. "Channel 2 has Monday morning team in place", Chicago Tribune, 9 Awst 1996.
  8. "Synthetic actors to star in Avatar", St. Petersburg Times, 12 Awst 1996.
  9. "Avatar Language". Nine to Noon. 15 Rhagfyr 2009.
  10. (Saesneg) Carroll, Larry (29 Mehefin 2006). 'Titanic' Mastermind James Cameron's King-Size Comeback: Two Sci-Fi Trilogies. MTV. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  11. Cyffredinol: http://www.boxofficemojo.com/alltime/world/.
  12. Gwlad lle'i gwnaed: "AVATAR".
  13. Iaith wreiddiol: "AVATAR".
  14. Dyddiad cyhoeddi: http://www.sfi.se/sv/svensk-filmdatabas/Item/?itemid=68935&type=MOVIE&iv=Basic. http://www.imdb.com/title/tt0499549/releaseinfo. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2017. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. http://nmhh.hu/dokumentum/158984/2009_filmbemutatok_osszes.xls. http://www.zelluloid.de/filme/index.php3?id=7614. dyddiad cyrchiad: 13 Tachwedd 2017.
  15. Cyfarwyddwr: "AVATAR".
  16. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw www.nytimes.com
  17. (Saesneg) Ben Fritz (20 Rhagfyr 2009). Could 'Avatar' hit $1 billion?. Los Angeles Times. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  18. (Saesneg) Keegan, R. (22 Rhagfyr 2009). How Much Did Avatar Really Cost?. Vanity Fair. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  19. (Saesneg) James Cameron's 'Avatar' Film to Feature Vocals From Singer Lisbeth Scott. Newsblaze.com (29 Hydref 2009). Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy