Avitus | |
---|---|
Ganwyd | 395, 400 Clermont-Ferrand |
Bu farw | 18 Awst 457 Gâl |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | offeiriad, gwleidydd |
Swydd | Western Roman emperor, esgob, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Agricola |
Plant | Papianilla, Ecdicius, Agricola |
Roedd Marcus Maecilius Flavius Eparchius Avitus (c. 395 – 456) yn Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin o'r 9 Gorffennaf 455 hyd 17 Hydref 456.
Roedd o deulu Galaidd-Rufeinig amlwg. Penodwyd ef i'r swydd o magister militum gan yr ymerawdwr Petronius Maximus pan ddaeth i'r orsedd, a gyrrwyd ef i Toulouse i geisio cefnogaeth Theodoric II, brenin y Fisigothiaid. Tra'r oedd ar ei ffordd yno, lladdwyd Petronius Maximus gan y dorf yn Rhufain, a chipiwyd Rhufain ei hun gan Geiseric, brenin y Fandaliaid.
Perswadiodd Theodoric II Avitus i hawlio'r ymerodraeth. Derbyniwyd hyn gan Marcian, yr ymerawdwr yn y dwyrain. Er hynny, nid oedd poblogaeth yr Eidal yn ei lwyr dderbyn fel ymerawdwr. Yn 456 dechreuodd ymgyrch i adennill Pannonia a gyda'i magister militum Ricimer, enillodd fuddugoliaeth dros y Fandaliaid ar y môr. Er hynny, gallodd y Fandaliaid ddefnyddio eu llynges i gau porthladd Rhufain, gan greu prinder bwyd yn y ddinas. Llwyddodd Ricimer a Majorian i elwa ar anfodlonrwydd y bobl, a gorfodwyd Avitus i ffoi i Arles. Cododd fyddin ac ymosod ar yr Eidal, ond gorchfygwyd ef gerllaw Placentia. Gorfodwyd ef i ymddiswyddo fel ymerawdwr a dod yn Esgob Placentia ar 17 Hydref 456. Yn ofni am ei einioes, ceisiodd ffoi i Gâl, ac yn ôl Gregori o Tours, bu farw yno. Dywed ffynonellau eraill iddo gael ei ladd gan Ricimer.
Roedd y bardd Avitus o Vienne yn berthynas iddo.
Rhagflaenydd: Petronius Maximus |
Ymerodron Rhufain | Olynydd: Majorian |