Awdl enghreifftiol

Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Math arbennig o awdl yw awdl enghreifftiol sy'n cynnwys pob un o'r pedwar mesur ar hugain.

Yn wreiddiol, cân ar un mesur oedd awdl,[1] ond dechreuodd y Gogynfeirdd hwyraf ganu teirawdl a phymawdl, felly daeth awdl yn gyfystyr â cherdd ar fwy nag un mesur. Ers amser Beirdd yr Uchelwyr, mae awdl wedi golygu cerdd ar fwy nag un o'r mesurau caeth traddodiadol. Mae awdl enghreifftiol yn cynnwys pob un o'r mesurau hyn, boed ddosbarth Dafydd ab Edmwnd neu'r hen fesurau

Yn amlach na pheidio, er gorchest yn unig y canwyd awdlau enghreifftiol fel mesur o fedrusrwydd a deheuigrwydd y bardd caeth wrth drin y mesurau traddodiadol. Cenid awdlau enghreifftiol yn aml gan feirdd ar eu prifiant er mwyn dangos bod ganddynt afael cadarn ar eu crefft.[2]

Yn achlysurol, cyflwynir awdlau enghreifftiol ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, ond nid oes awdl enghreifftiol wedi dod i'r brig yng nghystadleuaeth Y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol hyd yn hyn.

Cyflwynwyd awdl enghreifftiol o waith Roy Stephens i gystadleuaeth y gadair ym 1978, ond ataliwyd y wobr. Yn ogystal, cyflwynwyd awdl enghreifftiol i gystadleuaeth y gadair ym 1993 o dan y ffugenw RHisiart, Gweunydd, ond gosodwyd yr awdl yn isel yn y gystadleuaeth oherwydd bod cyfyngiadau rhai o'r mesurau yn rhoi straen ar y mynegiant.[3]

Canodd Dafydd Nanmor; gŵr a ystyrid i fod yn arloesol o ran chware campau â chynghanedd a mydr[1] yn ei ddydd; awdl enghreifftiol ar yr hen fesurau yn hytrach na dilyn mesurau Dafydd ab Edmwnd. Ceir hefyd awdlau enghreifftiol o waith Gwilym Tew a nifer o feistri mawr cyfnod Beirdd yr Uchelwyr, ond gellir dweud nad yw'r awdlau hyn ymysg eu gweithiau mwyaf arhosol, a bod mwy o werth llenyddol yn eu cywyddau gan mai gorchestion cynganeddol oedd yr awdlau yn bennaf. Dywed y Prifardd Alan Llwyd:

...unig ddiben yr awdlau hyn oedd profi hyfedredd. Rhyw fath o feini prawf oedd yr awdlau enghreifftiol hyn, a dim arall.[4]

Ceir copi o awdl enghreifftiol Dafydd Nanmor i Ddafydd ap Tomas ap Dafydd fel atodiad i Cerdd Dafod (John Morris-Jones).

  1. 1.0 1.1 John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925
  2. "Clywed Cynghanedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-27. Cyrchwyd 2010-07-24.
  3. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 1993, Gwasg Dinefwr
  4. Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd, Cyhoeddiadau Barddas, 2007

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in