Talfyriad | WDA |
---|---|
Sefydlwyd | 1976 |
Daeth i ben | 1 Ebrill 2006 |
Math | Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru |
Pwrpas | Asiantaeth datblygu economaidd |
Pencadlys | Plas Glyndwr, Ffordd y Brenin, Caerdydd, CF10 3AH |
Cysylltir gyda | Llywodraeth Cymru |
Gwefan | Gwefan Swyddogol - Archif o 2006 |
Asiantaeth Weithredol (neu QUANGO) oedd Awdurdod Datblygu Cymru (Saesneg: Welsh Development Agency neu WDA) a ddaeth yn ddiweddarach yn gorff cyhoeddus a noddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1976 gyda'r nod o achub economi Cymru drwy gefnogi datblygiad busnes a buddsoddiad yng Nghymru, clirio tir diffaith ac annog twf busnesau lleol. Diddymwyd y WDA yn Ebrill 2006 a throsglwyddwyd ei swyddogaeth i Lywodraeth Cymru.