Math o gyfrwng | gwlad ar un adeg |
---|---|
Daeth i ben | 11 Tachwedd 1918 |
Label brodorol | Österreich-Ungarn |
Poblogaeth | 39,386,934 |
Rhan o | Y Pwerau Canolog |
Dechrau/Sefydlu | 1 Mawrth 1867 |
Rhagflaenwyd gan | Ymerodraeth Awstria |
Yn cynnwys | Transleithania, Cisleithania |
Rhagflaenydd | Ymerodraeth Awstria |
Olynydd | Gweriniaeth Almaeneg-Awstria, Kingdom of Hungary, First Czechoslovak Republic, State of Slovenes, Croats and Serbs, Brenhiniaeth Rwmania, Tsiecoslofacia, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl |
Aelod o'r canlynol | Y Pwerau Canolog |
Enw brodorol | Österreich-Ungarn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwladwriaeth yng nghanolbarth Ewrop o 1867 hyd 1918 oedd Awstria-Hwngari. Roedd yn ffederasiwn oedd wedi datblygu o Ymerodraeth Awstria. O gwmpas y flwyddyn 1900, Awstria-Hwngari oedd y wlad fwyaf yn Ewrop ar ôl Rwsia.
Unwyd Awstria a Hwngari trwy briodas Anna o Fohemia (merch Vladislav II, brenin Bohemia a Hwngari) a'r archddug Ferdinand I, brawd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Siarl V yn 1526. Yn ddiweddarach daeth Ferdinand yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig wedi i'w frawd ymddiswyddo.
Daeth yr Ymerodraeth Lân Rhufeinig i ben yn 1806, a ffurfiwyd Ymerodraeth Awstria. gyda Hwngari yn rhan ohoni. Roedd yr Hwngariaid yn anfodlon ar hyn, ac wedi i Awstria gael ei gorchfygu gan deyrnas Prwsia yn 1866, daethpwyd i gytundeb (yr Ausgleich) yn 1867, lle rhoddodd yr ymerawdwr Frans Jozef yr un statws i Hwngari ac i Awstria.
Rhoddodd hyn statws cyfartal i Awstriaid a Hwngariaid, a gradd uchel o ymreolaeth o fewn y system ffederal, ond roedd y grwpiau ethnig eraill, megis y Tsieciaid, yn anfodlon ac yn mynnu'r un statws. Yn 1914, llofruddiwyd yr archddug Franz Ferdinand yn Sarajevo (yn Bosnia-Hertsegofina), gan ddechrau'r gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd ar y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw Frans Jozef yn 1916, ac olynwyd ef gan Siarl I. Ar ddiwedd y rhyfel, ymddatododd Awstria-Hwngari, gyda Tsiecoslofacia, Gorllewin Wcráin, Awstria a Hwngari yn dod yn wledydd annibynnol a rhannau eraill yn dod yn eiddo Rwmania, yr Eidal a Gwlad Pwyl.