Aymara | ||
---|---|---|
Aymar aru | ||
Siaredir yn | Bolifia, Periw hefyd Tsile, Yr Ariannin | |
Cyfanswm siaradwyr | 2.8 million (2000–2006) | |
Teulu ieithyddol | Aymara | |
System ysgrifennu | Lladin | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | ay | |
ISO 639-2 | aym | |
ISO 639-3 | aym | |
Wylfa Ieithoedd | – | |
Mae Aymara (Aymar aru) yn iaith a siaradir gan bobol Aymara yn ardal mynyddoedd yr Andes yn ne America, yn bennaf yng ngorllewin Bolifia.
Gyda 2,589,000 o siaradwyr (Bolifia: 2,098,000, Periw: 442,000, Yr Ariannin: 30,000, Tsile: 19,000) mae yn un o ychydig o ieithoedd brodorol America gyda thros dwy filiwn o siaradwyr.[1][2]
Yr ieithoedd Americanaidd brodorol gyda mwy na miliwn o siaradwyr yw Nahwatleg (Mecsico), Quechua (Andes), a Guarani (Paragwâi), Gogledd yr Ariannin a Bolifia)
Mae rhai ieithyddion yn dadlau bod Aymara yn perthyn i Quechua, ond mae gryn anghytundeb ynglŷn â hyn.
Cafodd ieithoedd brodorol de America eu hisraddio a'u gwahardd am lawer o flynyddoedd. Pan enillodd Bolifia ei annibyniaeth o Sbaen ym 1825, cadwyd Sbaeneg fel unig iaith swyddogol y wlad. Serch hynny dim ond yn 1976 ddaeth Sbaeneg i fod yn iaith mwyafrif pobl Bolifia gyda phobl Bolifia'n dod yn siaradwyr uniaith Sbaeneg neu'n ddwyieithog yn Sbaeneg ac un o 30 ieithoedd brodorol ar draws Bolifia.
Mae siaradwyr uniaith Aymara yn prinhau, ym 1950 ysgrifennodd yr hanesydd Herbet Klein roedd 664,000 o bobl Bolifia yn siarad dim ond Aymara. Erbyn 1976 roedd y rhif yn wedi'i haneri ac erbyn y ganrif newydd dim ond rhyw chwarter miliwn.