Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.31°N 3.77°W |
Cod OS | SH822812 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Ardal a phentref fawr yng nghymuned Llandudno, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Bae Penrhyn (Saesneg: Penrhyn Bay).[1] Saif ar yr arfordir gerllaw Rhiwledyn, rhwng Llandudno a Llandrillo-yn-Rhos. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llanrhos. Yn wreiddiol, Penrhyn oedd enw'r graig i'r dwyrain o Fae Llandudno (a elwir heddiw yn y Trwyn y Fuwch neu Little Orme), ond wrth i'r lle ddatblygu daeth yr enw "Bae Penrhyn" i olygu'r datblygiadiadau newydd a'r bae sydd i'r dwyrain o Drwyn y Fuwch (Gogarth Fach).[2] Gyferbyn iddo (hynny yw, i'r dwyrain o Fae Penrhyn) saif Ochr y Penrhyn (Saesneg: Penrhynside).[3]
Yr adeilad hynaf yma yw Hen Neuadd Penrhyn, cartref y teulu Pugh. Roedd y teulu yma yn reciwsantiaid Catholig yn niwedd y 16g. Ar 14 Ebrill 1587, cafwyd hyd i wasg gudd ar gyfer llenyddiaeth Gatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan Robert Pugh o'r Penrhyn a'i gaplan y Tad William Davies i argraffu Y Drych Cristianogawl (gan Robert Gwyn neu Gruffydd Robert), y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Llochesant yno i geisio dianc yr erledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd gan Elisabeth I o Loegr ym Mai 1586. Ceir adfeilion capel canoloesol cysegredig i'r 'Forwyn Fair o'r Penrhyn', wrth lethrau isaf Rhiwledyn ger Hen Neuadd Penrhyn; rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio ym 1930.
Ceir yma eglwys, tafarn, llyfrgell a nifer o siopau. Tyfodd Bae Penrhyn yn sylweddol yn ystod yr 20g, pan ddaeth yn faesdref i Landudno.