Enghraifft o'r canlynol | iaith fyw, iaith ![]() |
---|---|
Math | Ieithoedd Basgaidd, Ieithoedd De Ewrop ![]() |
Label brodorol | Euskara ![]() |
Rhan o | langues régionales de France, iaith swyddogol, languages of Europe ![]() |
Yn cynnwys | Tafodiaith Bizkaia, Gipuzkoan, Upper Navarrese, Navarro-Labourdin, Eastern Navarrese, tafodiaith Souletin, Alavese Basque, Salazarese, Standard Basque ![]() |
Rhagflaenydd | Hen Fasgeg ![]() |
Enw brodorol | Euskara ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | eu ![]() |
cod ISO 639-2 | baq, eus ![]() |
cod ISO 639-3 | eus ![]() |
Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc ![]() |
Rhanbarth | Gwlad y Basg ![]() |
System ysgrifennu | Yr wyddor Fasgeg, yr wyddor Ladin ![]() |
Corff rheoleiddio | Euskaltzaindia ![]() |
Gwefan | http://www.euskaltzaindia.net ![]() |
![]() |
Iaith Gwlad y Basg yw Basgeg (Basgeg: Euskara; ceir hefyd y ffurfiau Euskera, Eskuara ac Üskara). Siaredir hi gan dros 700,000 o bobl yng Ngwlad y Basg, y mwyafrif llethol ohonynt yn Sbaen. Ynghyd â'r Sbaeneg, mae hi'n iaith swyddogol o fewn Cymunedau Ymreolaethol Gwlad y Basg.
Nid yw'r Fasgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel y rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop. Mae hi'n iaith arunig, hynny yw, nid oes perthynas hanesyddol rhyngddi hi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol ag ieithoedd y Cawcasws wedi cael eu hawgrymu. Mae'n bosibl felly ei bod yn oroeswr o'r ieithoedd a siaradwyd yng ngorllewin Ewrop cyn dyfodiad yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd.