Bedo Aeddren | |
---|---|
Ganwyd | 1500s Llangwm |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1500 |
Bardd Cymraeg oedd Bedo Aeddren (fl. c. 1500) o Langwm, Sir Conwy. Fferm ger Llangwm yw 'Aeddren' ac fe sonir amdani yn ei gerddi er fod peth anghysondeb yn y sillafiad: Aerddrem, Aurdrem, Eurdrem, Oerddrym. Dywedir iddo etifeddu ail fferm ger Aeddren, sef Coed y Bedo ag iddo fynd i fyw i'r Bala pan oedd yn hŷn.[1]
Mae ei arddull yn ddynwarediad bron o Dafydd ap Gwilym: cerddi serch yn yr arddull draddodiadol gan fwyaf, fel gyda gwaith Bedo Brwynllys, ac mae'n anodd diffinio perchnogaeth rhai o'r cerddi a dadogir iddo. Credir iddo gael ei gladdu yn Llanfor, Meirionnydd.